Defnyddio chwynladdwyr ar reilffyrdd
Mewn ardaloedd hynod sensitif (a elwir yn barthau gwarchod tarddiad dŵr), gofynnwn mai dim ond chwynladdwyr a dulliau taenu penodol sy’n cael eu defnyddio.
Os ydych yn dilyn y rheolau hyn, nid oes angen caniatâd penodol gennym ni, oni bai eich bod mewn parth ‘dim chwistrellu’ diffiniedig.
Yr hyn i’w wneud mewn parthau ‘dim chwistrellu’
Pan fo cynllun gweithredu ar gyfer parth diogelu yn nodi glyffosad fel sylwedd ‘risg’, mae’n rhaid i chi geisio cytundeb gan y cwmni dŵr lleol a gwneud cais am gytundeb chwynladdwyr risg uwch gennym ni cyn defnyddio unrhyw chwynladdwyr.
Ble mae’r parthau gwarchod tarddiad dŵr yng Nghymru?
Ardaloedd hynod sensitif ar gyfer dŵr daear yw llinellau rheilffordd sy’n mynd:
- trwy barth gwarchod tarddiad dŵr daear 1 neu 2 (SPZ1 neu SPZ2)
- drwy barth diogelu dŵr daear
- o fewn 500 metr i ffynhonnell tynnu dŵr a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed
- o fewn unrhyw ardal arall a nodwyd gan y cwmni dŵr fel un sydd mewn perygl o chwynladdwr yn cael ei ddefnyddio ynddi.
Ardaloedd hynod sensitif ar gyfer dŵr wyneb yw llinellau rheilffordd sydd:
- o fewn 100 metr i’r afon, ac wedi’u lleoli mewn parth gwarchod neu ardal warchodedig dŵr wyneb y gellir ei yfed
- o fewn 100 metr i gronfa storio dŵr crai a ddefnyddir at ddibenion dŵr yfed
- o fewn unrhyw ardal arall a nodwyd gan y cwmni dŵr fel un sydd mewn perygl o chwynladdwr yn cael ei ddefnyddio ynddi.
Chwynladdwyr y gallwch eu defnyddio mewn parthau gwarchod tarddiad dŵr:
- Ar y trac, gallwch ddefnyddio olew sitronela, neu chwynladdwyr glyffosad, naill ai mewn offer llaw neu o gerbydau ar y rheilffordd
- Ar lain ffustio, a mannau eraill oddi ar y trac, caniateir taenu chwynladdwyr glyffosad mewn mannau penodol yn unig
Yr hyn i’w wneud y tu allan i ardaloedd hynod sensitif
Pan fo angen rheoli llystyfiant gan ddefnyddio chwynladdwyr y tu allan i’r ardaloedd hynod sensitif hyn, ond yn dal yn agos at ddŵr, dylid cymryd gofal i gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau sydd ar label y cynnyrch ynghylch diogelu dŵr wyneb a dŵr daear, a thrwy ddilyn y canllawiau presennol yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer defnyddio offer amddiffyn planhigion.
Ni ddylai unrhyw chwistrellu ddigwydd ar bontydd sy’n croesi dŵr a lleoliadau sensitif eraill, megis traphontydd a gweddau.