Gwneud cais i adleoli trwydded gwaith symudol
Cyn y gallwch gynnal gweithgareddau gwaith symudol, rhaid bod gennych:
- trwydded rheolau safonol neu drwydded bwrpasol
- gosodiad wedi'i gymeradwyo
Darganfyddwch sut i wneud cais am drwydded rheolau safonol.
Darganfyddwch sut i wneud cais am drwydded bwrpasol.
Gwneud cais i adleoli trwydded gwaith symudol
Gallwch wneud cais am osodiad pan fydd gennych y drwydded addas.
Rhaid bod gennych osodiad wedi'i gymeradwyo ar gyfer gwaith symudol bob tro yr ydych am gynnal gweithgareddau. Deuddeg mis yw cyfnod pob gosodiad.
Taenu ar dir
Er mwyn gwneud cais am osodiad taenu ar dir, rhaid bod gennych un o'r trwyddedau canlynol:
- SR2010 Rhif 4 Offer symudol ar gyfer taenu ar dir (gwaith trin tir sy’n arwain at fudd amaethyddol neu ecolegol)
- SR2010 Rhif 5 Defnydd o offer symudol ar gyfer adennill tir, adfer neu wella tir
- SR2010 Rhif 6 Offer symudol ar gyfer taenu slwtsh carthion ar dir
- Trwydded offer symudol wedi’i deilwra ar gyfer taenu ar dir neu adennill tir
Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais am osodiad gwaith symudol ar gyfer taenu ar dir (Saeneg un unig).
Trin gwastraff i gynhyrchu pridd, amnewidion pridd ac agregau
Er mwyn gwneud cais am ganiatâd defnyddio ar gyfer trin gwastraff, mae’n rhaid ichi gael y drwydded rheolau safonol ganlynol:
- SR2010 Rhif 11 Offer symudol ar gyfer trin gwastraff i gynhyrchu pridd, amnewidion pridd ac agregau
Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais am drin gwastraff i gynhyrchu pridd, pridd amgen ac agregau (Saesneg un unig).
Adfer tir a/neu ddŵr daear neu weithgaredd trin gan ddefnyddio trwydded adfer gydag offer symudol
Er mwyn gwneud cais ar gyfer gwaith adfer tir a/neu ddŵr daear neu weithgaredd trin gan ddefnyddio trwydded adfer gydag offer symudol, rhaid i chi gael un o'r trwyddedau canlynol:
- SR2008 Rhif27 Offer symudol ar gyfer trin priddoedd a deunydd, sylweddau neu gynhyrchion halogedig
- Trwydded bwrpasol ar gyfer adfer tir a dŵr daear
- Trwydded bwrpasol ar gyfer gwaith trin gan ddefnyddio offer symudol
Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar waith adfer neu driniaeth ar dir a/neu dŵr daear gan ddefnyddio trwydded adferol gwaith symudol (Saesneg un unig).
Talu eich ffioedd caniatâd defnyddio
Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd angen i chi dalu eich ffi.
Cyfrifo beth sydd angen i chi ei dalu drwy ddarllen y cynllun codi tâl trwyddedu amgylcheddol.
Gallwch dalu drwy ein ffonio ni ar 0300 056 3000 rhwng 9 a 5, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy drosglwyddiad banc i:
Enw'r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Ni allwn brosesu cais hyd nes y telir y ffi gywir.
Ar ôl i chi wneud cais am ganiatâd defnyddio
Pan fyddwn yn derbyn eich cais am ganiatâd defnyddio cyflawn a'ch ffi gywir, mae'n rhaid i ni:
- sicrhau bod gennych drwydded fyw addas ar gyfer y gweithgareddau yr ydych yn gwneud cais i'w cyflawni
- asesu pob cais am effeithiau posibl a sicrhau bod gennych fesurau ar waith i ddelio â nhw
- ystyried ein hamcanion a'n dyletswyddau cyfreithiol
- gwrando ar aelodau o'r cyhoedd y gallai’r cynigion effeithio arnynt
Byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn 25 diwrnod.
Cyflwyno rhag-hysbysiad taenu ar y tir
Cydymffurfio â'ch trwydded a’ch caniatâd defnyddio
Darganfod canllawiau technegol a gwybodaeth am gydymffurfio â'ch trwydded wastraff.