Martyn Langford - Uned Ddofednod Fferm Rhosddu, Fferm Rhosddu, Llansanffraid-ym-Mechain, Powys, SY22 6TH
Rydym wedi derbyn cais i amrywio trwydded amgylcheddol gan Martyn Langford
Cais am amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-025564
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa – Adran 6.9: Ffermio Dwys – Rhan A (1)(a) Magu dofednod neu foch yn ddwys mewn gweithfa sydd â mwy na (i) 40,000 o leoedd dofednod)
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Uned Ddofednod Fferm Rhosddu, Fferm Rhosddu, Llansanffraid-ym-Mechain, Powys, SY22 6TH
Mae’r Gweithredwr wedi gwneud cais i amrywio ei drwydded (rhif trwydded EPR/AB3095HL) i gael 8,000 o adar dodwy maes ychwanegol. Er mwyn hwyluso’r newid hwn, gwnaed cais hefyd i gael gwared o’r sied glwydo system dec fflat bresennol ar gyfer 16,000 o adar a gosod adardy aml-haen ar gyfer 24,000.
Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus arlein Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 03 Mawrth 2025
Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.