Y technegau gorau sydd ar gael a dogfennau canllaw ychwanegol ar gyfer prosesau sy’n ymwneud â hylosgi

Nod y technegau gorau sydd ar gael yw atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd.

Rhaid i osodiadau diwydiannol gyda mathau penodol o weithgareddau ddefnyddio’r technegau gorau sydd ar gael i atal a lleihau allyriadau i’r aer, y dŵr a’r tir. 

Mae dogfennau presennol yr UE ar gyfer y technegau gorau sydd ar gael yn parhau i gael eu defnyddio tra bod y DU yn datblygu ei rhai ei hun.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk

Y technegau gorau sydd ar gael a chanllawiau ychwanegol

Yng Nghymru, rydym yn defnyddio’r safonau a chanllawiau canlynol sydd ar gael fel rhan o’n hasesiadau cydymffurfio ac wrth osod amodau trwyddedau ac unrhyw werthoedd terfyn cysylltiedig ar gyfer allyriadau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gov.uk

Lawrlwythwch gasgliadau'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer llosgi gwastraff gan Swyddfa Atal a Rheoli Llygredd Integredig Ewrop (EIPPCB) 

Rhagor o wybodaeth am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gosodiadau

Darllenwch ragor am drwyddedu gosodiad.

Diweddarwyd ddiwethaf