Dirwyn cronfa ddŵr i ben a gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur

Pan fydd eich cronfa ddŵr wedi cyrraedd diwedd ei hoes ddefnyddiol ac nad oes ganddi unrhyw ddefnydd penodol, neu pan fo cost cynnal a chadw yn fwy na gwerth ei buddion, mae angen ichi ystyried ei datgomisiynu. Mae tair prif ffordd o wneud hyn.

Gallwch gadw'r gronfa ddŵr ond ei hatal rhag llenwi, a elwir yn adael iddi fynd yn segur, neu gallwch gadw cronfa ddŵr fechan neu adael basn gwag, a elwir yn ddirwyn i ben.

Dylai eich gwaith datgomisiynu anelu at adfer yr ecosystem a oedd yn bresennol cyn adeiladu'r gronfa ddŵr. Mae tynnu argae yn unig yn annigonol i adfer yr effeithiau a achosir gan groniad hirfaith o ddŵr, a fesurir yn aml mewn canrifoedd.

Mae datgomisiynu yn cynnwys adfer yr amgylchedd naturiol yn iawn, gan gynnwys y cynefinoedd dyfrol a fyddai wedi bod yn bresennol ar hyd y cwrs dŵr i lawr yr afon ac o fewn basn y gronfa ddŵr cyn ei hadeiladu.

Dylai eich cynlluniau datgomisiynu adfer a / neu wella:

  • trefn llif naturiol, ecolegol gynaliadwy – o ran maint absoliwt y dŵr (llif sylfaenol) ac amrywioldeb y llif
  • parhad yr afon a bioamrywiaeth trwy helpu rhywogaethau dyfrol i fudo a physgod i silio a thrwy ailsefydlu prosesau naturiol fel dosbarthiad gwaddod
  • rheoli neu ddileu rhywogaethau estron goresgynnol – planhigion ac anifeiliaid
  • dosbarthiad maetholion naturiol

Mae'n bosibl bod eich cronfa ddŵr yn wreiddiol yn wlyptir, llyn naturiol neu bwll, a godwyd yn ddiweddarach y tu ôl i argae. Efallai y gwelwch dystiolaeth o hyn gan ddefnyddio hen fapiau neu gofnodion lleol. Mae'r rhain yn gynefinoedd pwysig a fydd yn elwa o gael eu hadfer.

Dylai eich penderfyniad ystyried pwrpas gwreiddiol y gronfa ddŵr a sut mae hynny wedi newid dros amser. Gall y gronfa ddarparu buddion a gwerth newydd na chafodd erioed ei dylunio ar eu cyfer, neu gallai ei phresenoldeb parhaus rwystro amgylchedd mwy cynaliadwy a naturiol o fewn ôl troed y gronfa ddŵr a’r cwrs dŵr i lawr yr afon.

Dirwyn cronfa ddŵr i ben

Mae dirwyn cronfa ddŵr i ben yn golygu newid cronfa ddŵr fel nad yw bellach yn gallu dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr uwchlaw lefel naturiol y tir o’i hamgylch. Gall y newid atal y gronfa ddŵr rhag dal unrhyw ddŵr o gwbl neu gall ganiatáu i gronfa ddŵr fach gael ei chadw cyn belled â bod y cynhwysedd yn llai na 10,000 metr ciwbig. Nid yw dŵr o dan lefel naturiol y ddaear, e.e. llyn naturiol, yn cael ei ystyried.

Pan fydd peiriannydd yn ardystio bod y broses o ddirwyn y gronfa ddŵr wedi’i chwblhau, rydym yn tynnu’r gronfa ddŵr oddi ar y gofrestr o gyforgronfeydd dŵr mawr ac nid yw’n cael ei rheoleiddio gennym ni mwyach o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Os oes angen i chi gadw cronfa ddŵr fechan, dylech adolygu eich rheolaeth ohoni i sicrhau bod yr effeithiau'n cael eu lleihau. Bydd angen i chi reoli’r canlynol:

  • gwaddod a gedwir o fewn y gronfa ddŵr a gwaddodion yn y cwrs dŵr i lawr yr afon i adlewyrchu parhad yr afon ac amrywiad tymhorol fel y disgrifir uchod
  • gollyngiadau llif amgylcheddol – i wneud iawn am golli llif naturiol o ran maint absoliwt (cyfundrefn llif sylfaenol) ac amrywioldeb llif (gan gynnwys llifau tymhorol uchel ac isel)
  • llwybrau pysgod a llyswennod

Gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur

Mae gadael i gronfa ddŵr fynd yn segur yn golygu newid cronfa ddŵr fel ei bod yn aros yn ei lle ond nad yw’n gallu llenwi â dŵr, neu nad yw’n gallu llenwi i lefel a allai achosi risg, fel y bernir gan beiriannydd sifil cymwys. Nid yw'r newid yn cael gwared ar yr argae a gellir dod â chronfa ddŵr segur yn ôl i ddefnydd yn y dyfodol os oes angen.

Mae cyforgronfa ddŵr fawr a adawyd i fynd yn segur yn parhau i gael ei rheoleiddio o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, ac efallai y bydd dal angen i chi drefnu i beirianwyr cronfeydd dŵr cymwys ei harchwilio a’i goruchwylio. Mae'r cyfle i adael cronfa ddŵr fynd yn segur yn aml yn cael ei gyfyngu gan ei dyluniad. Yn gyntaf oll, dylech geisio barn peiriannydd sifil cymwys ynghylch a yw'n bosibl i’w gadael iddi fynd yn segur.

Rhagor o ganllawiau

Mae canllawiau manylach ar gael gwared ar gronfeydd dŵr a’u haddasu at ddibenion eraill ar gael gan Gov.uk

Penodi peiriannydd sifil cymwys

Ar gyfer dirwyn cronfa ddŵr i ben a’i gadael i fynd yn segur, rhaid i chi benodi peiriannydd sifil cymwys i ddylunio, goruchwylio ac ardystio'r gwaith.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt peirianwyr sifil cymwys a all oruchwylio ac ardystio gwaith mewn unrhyw gronfa ddŵr ar y rhestr o beirianwyr panel pob cronfa ddŵr

Dewch o hyd i fanylion cyswllt peirianwyr sifil cymwys a all oruchwylio ac ardystio gwaith mewn cronfeydd dŵr nad ydynt yn cronni (“wedi'u bwndio” neu “all-lein”) ar y rhestr o beirianwyr panel ar gyfer cronfeydd dŵr nad ydynt yn cronni

Dewch o hyd i fanylion cyswllt peirianwyr panel cronfeydd dŵr gwasanaeth sy'n gallu goruchwylio ac ardystio gwaith mewn cronfeydd dŵr gwasanaeth wedi'u gwneud o frics neu goncrit ac sydd wedi'u selio'n aml ar gyfer dŵr yfed wedi'i drin

Dylech benodi'r peiriannydd sifil cymwys yn gynnar fel y gall roi cyngor priodol i chi a rhoi cyngor technegol ar y gwahanol opsiynau. Rhaid iddo gymeradwyo ac ardystio'r gwaith.

Rhoi gwybod i ni

Rhaid i chi roi gwybod i ni am benodiad y peiriannydd sifil cymwys a darparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Enw a lleoliad y gronfa ddŵr, gan gynnwys ei Chyfeirnod Grid Cenedlaethol
  • Enw a chyfeiriad ymgymerwr y gronfa ddŵr
  • Enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd sifil cymwys a benodwyd ar gyfer y gwaith
  • Y dyddiad y penodwyd y peiriannydd

Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod o benodi'r peiriannydd sifil cymwys.

Rhaid i’ch hysbysiad gynnwys y ffi briodol. Mae’r ffi yn cynnwys ein costau gweinyddol ar gyfer derbyn, dilysu a chydnabod yr hysbysiad a thystysgrifau’r peiriannydd.

Dewch o hyd i fanylion ein ffioedd

Caniatâd cynllunio a chaniatadau eraill y gallai fod eu hangen arnoch

Mae newid argae cronfa ddŵr, neu gael gwared ar argae cronfa ddŵr, yn weithgaredd sydd angen caniatadau amrywiol cyn bod y gwaith ar y gronfa ddŵr yn gallu mynd yn ei flaen. Rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor gan y rheoleiddwyr perthnasol a grybwyllir isod.

Bydd angen i chi gefnogi eich ceisiadau am ganiatâd gyda thystiolaeth o'r dyluniad, y dull a'r effaith. Gall pob awdurdod cydsynio roi cyngor ar yr hyn y bydd angen i chi ei ddarparu.

Caniatadau y gallai fod eu hangen arnoch gennym ni

Trwydded cronni dŵr

O dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991, efallai y bydd angen caniatâd arnoch i gael gwared ar adeiledd cronni dŵr neu i newid adeiledd cronni dŵr.

Darllenwch ein canllawiau ar drwyddedau cronni dŵr.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais.

Trwydded gollwng dŵr

Darllenwch ein canllawiau ar wneud cais am drwydded newydd neu addasu trwydded bresennol i ryddhau dŵr o waelod eich cronfa ddŵr drwy’r allfa sgwrio neu’r allfa waelod.

Ystyrir y dŵr hwn yn “elifiant masnach”.

Rydym yn eich cynghori i gymryd cyngor cyn ymgeisio gennym ni.

Trwydded gweithgarwch perygl llifogydd

Darllenwch ein canllawiau ynghylch a oes angen i chi gael trwydded gweithgarwch perygl llifogydd ar gyfer gwaith arfaethedig mewn prif afon, dros brif afon, o dan brif afon neu’n gyfagos i brif afon.

Gallwch weld terfyn y prif afonydd gan ddefnyddio ein syllwr mapiau ar-lein.

Symudiadau pysgod

Darllenwch ein canllawiau ar sut i wneud cais am ganiatâd i gael gwared ar bysgod yn ddiogel

Rheoli gwastraff

Gall eich prosiect datgomisiynu gynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau gwastraff, neu efallai y bydd angen i chi storio neu drin gwastraff ar y safle. Mae'n debygol y bydd angen awdurdodiadau a/neu ganiatadau ychwanegol ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru'r gweithgaredd fel un sydd wedi'i esemptio o'r angen am drwydded.

Darllenwch ein canllawiau ar drwyddedau gwastraff.

Mae rheolau tebyg yn berthnasol os ydych yn bwriadu mewnforio gwastraff fel rhan o’r gwaith – er enghraifft, defnyddio gwastraff rwbel adeiladu ar gyfer trac mynediad neu bridd gwastraff ar gyfer tirlunio.

Fel cynhyrchydd gwastraff, bydd gofyn i chi gydymffurfio â'ch dyletswydd gofal gwastraff.

Darllenwch ein harweiniad ar y ddyletswydd gofal.

Gall dirwyn cronfa ddŵr i ben gynnwys cael gwared ar ddefnyddiau’r argae yn llawn, yn enwedig os ydynt yn cynnwys gwastraff peryglus neu wastraff nad yw’n lleol sy’n atal adferiad amgylcheddol llawn, neu os nad yw hynny’n ymarferol, eu trin a’u hailddosbarthu ar y safle.

Rhywogaethau estron goresgynnol

Gall rhywogaethau estron goresgynnol fod yn blanhigion neu'n anifeiliaid a gallant achosi difrod a dinistr. Mae rheolaethau ar sut y mae'n rhaid eu trin, eu symud neu eu dileu.

Darllenwch ein canllawiau ar reoliadau rhywogaethau estron goresgynnol i ddysgu mwy a chael gwybod sut i wneud cais am drwydded.

Cydsyniad ar gyfer gwaith mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Defnyddiwch ein map ar-lein i ddarganfod a yw eich cronfa ddŵr mewn ardal warchodedig neu’n agos at un.

Os bydd y gwaith arfaethedig yn effeithio ar SoDdGA neu nodwedd warchodedig arall, rhaid i chi roi gwybod i ni a gofyn am gydsyniad o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Darllenwch ein canllawiau ar sut i gael cydsyniad SoDdGA.

Cydsyniad draenio tir Ardal Draenio Mewnol

Os ydych yn bwriadu gweithio ar gwrs dŵr cyffredin o fewn Ardal Draenio Mewnol, dylech ddarllen ein canllawiau ar sut i wneud cais am gydsyniad draenio tir.

Caniatadau y gallai fod eu hangen arnoch gan eraill

Cyngor cyfreithiol

Efallai y bydd gan bobl eraill hawliau yn eich cronfa ddŵr neu ar gyfer y dŵr sydd ynddi. Dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr i wirio hyn ac i gael cyngor.

Caniatâd cynllunio neu hawliau datblygu a ganiateir

Gall eich awdurdod cynllunio lleol eich cynghori a oes angen caniatâd cynllunio arnoch neu a ellir gwneud y gwaith dan hawliau datblygu a ganiateir.

Cydsyniad adeilad rhestredig

Eich awdurdod lleol fel arfer yw’r corff rheoleiddio i roi cydsyniad adeilad rhestredig, er y gall hefyd fod yn Cadw.

Cydsyniad heneb gofrestredig

Os yw unrhyw un o adeileddau eich cronfa ddŵr yn gofrestredig, neu os gallai’r gwaith gael effaith ar heneb gofrestredig, dylech drafod y gwaith gyda Cadw i weld a oes angen cydsyniad.

Cydsyniad cwrs dŵr cyffredin

Efallai y bydd angen cydsyniad gan eich awdurdod lleol ar gyfer gwaith ar gwrs dŵr cyffredin. Mae cwrs dŵr cyffredin yn un nad yw'n cael ei ddosbarthu fel prif afon.

Gallwch weld terfyn y prif afonydd gan ddefnyddio ein syllwr mapiau ar-lein.

Iechyd a diogelwch

Os yw eich cronfa ddŵr yn fan gwaith, bydd angen i chi hefyd gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch.

Gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch roi arweiniad.

Dirwyn cyforgronfa ddŵr fawr i ben

Dirwyn i ben yw'r term cyfreithiol o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar gyfer y gwaith a allai arwain at y gronfa ddŵr yn

  • methu dal dŵr uwchlaw lefel naturiol y ddaear
  • cael ei newid i gadw cronfa ddŵr fechan gyda chynhwysedd sy’n llai na 10,000 metr ciwbig

Gostwng lefel y dŵr

Gall y peiriannydd sifil cymwys benderfynu y dylid rheoli gostwng lefel y dŵr a chyhoeddi tystysgrif interim a roddir o dan adran 13(1A). Bydd y dystysgrif hon yn nodi’r canlynol:

  • i ba lefel y mae'n rhaid lleihau’r dŵr
  • erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid ei leihau
  • unrhyw amodau y mae'n rhaid eu cymhwyso

Gall y peiriannydd sifil cymwys gyhoeddi tystysgrifau interim pellach ar gyfer lefelau dŵr gwahanol. Rhaid anfon copi o bob tystysgrif newydd atom. Fel arfer, bydd y peiriannydd sifil cymwys yn anfon y copi atom yn uniongyrchol, ond dylech wirio bod hyn yn digwydd.

Rhaid i chi beidio â chaniatáu i'r gronfa ddŵr lenwi uwchlaw'r lefel a roddir yn y dystysgrif interim ddiweddaraf.

Rhaid rhyddhau dŵr yn unol â thrwydded gollwng dŵr. Mae tynnu dŵr yn arafach ac yn fwy graddol yn caniatáu ymateb mwy naturiol. Efallai y bydd geomorffolegydd sydd â phrofiad o forffoleg afonydd yn gallu rhoi cyngor ar sut i gael gorffeniad mwy naturiol.

Mae hen fapiau yn aml yn dangos y tir cyn i’r gronfa ddŵr gael ei hadeiladu; gall y rhain eich helpu i ddeall sut y gall y tir ddychwelyd i sut yr oedd yn edrych yn flaenorol.

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol yr Alban syllwr mapiau ochr-yn-ochr defnyddiol i gymharu tirweddau cyfoes a hanesyddol.

Cwblhau'r gwaith addasu

O dan oruchwyliaeth y peiriannydd sifil cymwys, dylech gwblhau'r gwaith a argymhellir, gan ofalu nad ydych yn achosi llygredd, difrod neu niwsans. Dylech ddefnyddio contractwyr sydd â phrofiad o weithio ar argaeau neu adeileddau cadw dŵr eraill ac sy'n ymwybodol o'r risg o weithio mewn amgylchedd dŵr.

Cael tystysgrif dirwyn i ben

Pan fydd y peiriannydd sifil cymwys yn fodlon bod y gwaith wedi'i gwblhau, byddwch yn cael “tystysgrif dirwyn i ben adran 13(2)”. Mae’n arfer da os yw’r peiriannydd hefyd yn darparu atodiad i’r dystysgrif sy’n crynhoi’r gwaith ac sy’n cadarnhau a yw cronfa ddŵr fach wedi’i chadw a beth yw ei chynhwysedd sy’n weddill, os oes cynhwysedd o gwbl. Dylech ofyn am yr atodiad hwn os na chewch chi un.

Ar ôl cael y dystysgrif, byddwn yn gwirio'r ffeithiau ac yn tynnu'r gronfa ddŵr oddi ar y gofrestr. Dylech gadw pob cofnod o'r gwaith.

Oni bai a hyd nes y bydd y dystysgrif dirwyn i ben wedi'i chyhoeddi, mae'r gronfa ddŵr yn dal i fod yn gyforgronfa ddŵr fawr ac yn destun lefel y rheoleiddio a osodir gan ei dynodiad risg.

Gadael cyforgronfa ddŵr fawr i fynd yn segur

Cael adroddiad gan beiriannydd

Cyn i chi roi'r gorau i gronfa ddŵr, rhaid i chi benodi peiriannydd sifil cymwys i archwilio'r gronfa ddŵr a chael adroddiad o'r archwiliad. Bydd yr adroddiad archwilio yn cynnwys y camau gweithredu y mae angen i chi eu cymryd i adael i’r gronfa ddŵr fynd yn segur yn ddiogel.

Cwblhau'r mesurau a argymhellir

Rhaid i chi gwblhau unrhyw faterion i'w cymryd er budd diogelwch o fewn y terfyn amser a argymhellir gan y peiriannydd sifil cymwys a chael tystysgrif i ddangos bod y mesurau wedi'u cwblhau'n foddhaol.

Pan fydd y mesurau wedi'u cwblhau a'u hardystio, byddwn yn diwygio'r gofrestr i ddangos bod eich cronfa ddŵr wedi cael ei gadael i fynd yn segur a byddwn yn parhau i fonitro unrhyw ofynion statudol sy'n dal yn berthnasol.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer cynnal a chadw, monitro, gwyliadwriaeth a chadw cofnodion. Dylech sicrhau bod y rhain i gyd wedi'u cwblhau.

Darllenwch ein canllawiau ar sut i ddeall adroddiad archwilio.

Parhau i reoli'r gronfa ddŵr yn ddiogel

Rhaid i chi beidio ag ail-lenwi cronfa ddŵr a adawyd i fynd yn segur. Os dymunwch ddod â’r gronfa ddŵr segur yn ôl i ddefnydd, mae hwn yn weithgaredd rheoledig y mae’n rhaid i chi benodi peiriannydd adeiladu ar ei gyfer a dweud wrthym amdano.

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud â’ch cronfa ddŵr a allai effeithio ar ei diogelwch.

Os yw'ch cronfa ddŵr wedi'i dynodi'n gronfa ddŵr risg uchel, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • parhau i benodi peiriannydd goruchwylio
  • parhau i gynnal gwaith monitro a gwaith cynnal a chadw, a chadw cofnodion
  • parhau i drefnu archwiliadau cyfnodol

Gall y peiriannydd sifil cymwys leihau amlder monitro, cynnal a chadw, a chadw cofnodion.

Adolygu eich cynllun llifogydd

Tra bod eich cronfa ddŵr yn cael ei dirwyn i ben neu’n cael ei gadael i fynd yn segur, dylech adolygu eich cynllun llifogydd i roi cyfrif am unrhyw risgiau newydd a allai ymddangos tra bod y gwaith yn mynd rhagddo.

Darllenwch ein canllawiau ar sut i adolygu eich cynllun llifogydd

Canlyniadau cyfreithiol

Mae’n drosedd i wneud y canlynol:

  • dirwyn unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr i ben neu ei gadael i fynd yn segur, waeth beth fo'i dynodiad risg, heb benodi peiriannydd sifil cymwys
  • methu â rhoi gwybod i ni am benodiad peiriannydd sifil cymwys o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau’r broses o ddirwyn y gronfa ddŵr i ben neu ei gadael i fynd yn segur
  • methu cynnal lefel dŵr y gronfa ddŵr islaw’r lefel a roddir gan y peiriannydd sifil cymwys mewn tystysgrif interim
  • darparu gwybodaeth gywir gyfredol i'w chadw ar y gofrestr gyhoeddus
  • methu â chael unrhyw drwydded neu gydsyniad neu gofrestru esemptiad, yn ôl y gofyn, a methu â chydymffurfio ag amodau’r drwydded neu’r esemptiad yn ôl y digwydd

Os byddwn yn dod yn ymwybodol bod cronfa ddŵr yn cael ei newid, ond nad oes unrhyw beiriannydd sifil cymwys wedi'i benodi i ddylunio, cymeradwyo a goruchwylio'r gwaith, mae'n bosibl y byddwn yn cyflwyno hysbysiad i chi yn gofyn am benodi peiriannydd sifil cymwys o fewn 28 niwrnod.

Os byddwch yn methu gweithredu unrhyw fesurau i'w cymryd er budd diogelwch, mae'n bosibl y byddwn yn cyflwyno hysbysiad i chi yn mynnu bod y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn terfyn amser penodol.

Rydym yn ceisio adennill ein costau ar gyfer unrhyw gamau gorfodi yr ydym yn eu cymryd.

Diweddarwyd ddiwethaf