Cyfrifo gollyngiadau o ffermydd dofednod a moch: esiamplau

Newid math o ddofednod neu'r nifer sy'n cael eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo gollyngiad pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagwyd gennych wedi newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

Esiampl

Mae gan fferm brwyliaid 50,000 o adar yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 100,000 yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer brwyliaid yw 0.034. Y cyfrifiad amonia fyddai:

((50,000 x 0.034) x 5/12) + ((100,000 x 0.034) x 7/12) = 2692kg

Gollyngiadau amonia o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 1 - Brwyliaid dofednod

80,000 o leoedd brwyliaid x ffactor allyriadau o 0.024 = rhyddhau 1,920kg

Enghraifft 2 – Tai dofednod gyda thechnoleg lleihau allyriadau Os oes gennych chi dechnoleg lleihau amonia, fel sgwrwyr ar eich sied dofednod dylech leihau'r ffactor allyriadau a ddefnyddiwch yn eich cyfrifiad yn ôl swm y gostyngiad sy'n berthnasol yn eich trwydded.

Er enghraifft, mae angen i fferm brwyliaid gyda 240,000 o adar â thechnoleg sgwrio aer sy'n lleihau allyriadau 90% gymhwyso gostyngiad o 90% i'r cyfrifiad.

Y ffactor allyriadau fydd 0.024 x 0.1 = 0.0024kg fesul aderyn y flwyddyn.

Yr allyriadau fydd 240,000 x 0.0024 = 576kg.

Enghraifft 3 - Haenau maes, aml-haen gyda thynnu tail ar wregysau

64,000 o leoedd haen x ffactor allyriadau o 0.091 = 5824kg

Os yw tail yn cael ei storio ar y safle ar ôl ei dynnu o'r llety, mae'n rhaid rhoi gwybod am yr amonia sy'n cael ei ryddhau o hwn hefyd

Felly, os caiff 17 tunnell o dail ei dynnu ar system gwregys,

17 x ffactor allyriadau o 2.68 = 45.56kg

Cyfanswm y rhyddhad yn yr enghraifft hon fyddai 5824 + 45.56 = 5869.56kg.

Gollyngiadau llwch gronynnol o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 

Gosodiad gyda 50,000 o ddodwyr mewn cawelli

(50,000 x ffactor allyrru o 0.05) ÷ 3 = 833kg

Gollyngiadau methan o ddofednod

Lluoswch nifer yr adar gyda'r ffactor allyrru perthnasol

Esiampl 

50,000 o frwyliaid x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail dofednod o 0.078 = 3900kg

Newid y math o foch neu’r nifer a gaiff eu magu

Defnyddiwch y fformiwla hon i gyfrifo'r gollyngiadau pan fo nifer a/neu'r math o anifail a fagir gennych yn newid yn ystod y flwyddyn

((N x F) x M/12) + ((n x F) x M/12) = allyriadau mewn kg

Ble:

N = nifer y da byw

n = nifer newydd y da byw

F = ffactor allyrru perthnasol

M = y misoedd sy'n gymwys

Esiampl 

Mae gan osodiad 800 o hychod yn ystod pum mis cyntaf y flwyddyn a 1000 o hychod yn ystod y saith mis sy'n weddill. Y ffactor allyrru amonia ar gyfer hychod ar wellt yw 3.29.

Y cyfrifiad amonia fyddai:

((800 x 3.29) x 5/12) + ((1000 x 3.29) x 7/12) = 3016kg

Gollyngiadau amonia o foch

Esiampl - Siediau moch

Fferm a ddefnyddiodd lleoedd ar gyfer 800 o hychod a 1500 o lathrwyr ar wellt yn y flwyddyn galendr

(800 x ffactor allyrru o 3.29) + (1500 x ffactor allyrru o 1.888)

= cyfanswm gollyngiad o 5464kg

Os caiff tail neu slyri ei storio o fewn ffin y gosodiad, rhaid ychwanegu gollyngiadau o hyn at y gollyngiadau o’r siediau

Felly, ar gyfer lagŵn slyri 43m2 heb orchudd,

ychwanegwch (43 x ffactor allyrru o 1.4) = 60.2kg

Cyfanswm allyriad o siediau a storfa tail =  5464 + 60.2 = 5524.2kg

Gollyngiadau methan o foch

Bydd angen i chi adrodd ar fethan o'r moch eu hunain (eplesu enterig), ac o storfa tail.

Esiampl

Gosodiad gyda 800 o hychod

(800 x ffactor allyrru ar gyfer eplesu enterig o 1.5) = 1200kg

A

(800 x ffactor allyrru ar gyfer rheolaeth tail o 3) = 2400kg

Cyfanswm allyriad = 3600kg

Diweddarwyd ddiwethaf