Diweddaru’ch manylion neu ganslo rhybuddion llifogydd

Problemau wrth fewngofnodi i'ch cyfrif

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd cyn Gorffennaf 2024, neu gofrestru unrhyw bryd dros y ffôn, bydd angen i chi greu cyfrif gyda ni yn gyntaf.

Yna byddwch yn gallu mewngofnodi i ddiweddaru eich manylion ar-lein.

Diweddaru’ch manylion neu ganslo rhybuddion llifogydd

Os ydych wedi cofrestru i gael rhybuddion llifogydd, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif er mwyn:

  • diweddaru eich manylion
  • canslo eich cyfrif


Neu gallwch hefyd ffonio gwasanaeth 24 awr Floodline:

Gweld y ffioedd galwadau ffôn ar gov.uk

Problemau derbyn rhybuddion llifogydd

Os ydych yn credu eich bod wedi cofrestru â’r gwasanaeth ond heb dderbyn rhybudd llifogydd neu neges llifogydd - byddwch yn barod, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod wedi cofrestru â’ch manylion cyswllt cyfredol.

Sut yr ydym yn prosesu eich data

Mae Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar gyfer y gwasanaeth hwn yn unig er mwyn rhoi rhybuddion a gwybodaeth am lifogydd. I ddysgu mwy am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf