Sut rydyn ni'n cynllunio a blaenoriaethu ein gwaith rheoli perygl llifogydd

Rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg i reoli’r perygl o lifogydd gan flaenoriaethu buddsoddiad i’r bobl a’r cymunedau hynny sydd yn y perygl mwyaf. Rydym yn gwneud hyn yn unol â Strategaeth genedlaethol rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru.

Nodi beth sydd mewn perygl o lifogydd

Rydym yn defnyddio mapiau perygl llifogydd i’n helpu i nodi beth sydd mewn perygl o lifogydd. Er eu bod yn dangos i ni ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd – wedi'u rhannu'n gategorïau risg uchel, canolig ac isel – nid ydynt yn dweud wrthym: 

Er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch ble mae angen i ni ymgymryd â gweithgareddau i reoli’r perygl o lifogydd, rydym yn defnyddio offeryn i'n helpu a elwir yn gofrestr cymunedau mewn perygl. 

Sut rydym yn defnyddio'r gofrestr cymunedau mewn perygl

Fe wnaethom ddatblygu'r gofrestr cymunedau mewn perygl fel ffordd wrthrychol i ni nodi’r perygl o lifogydd. Rydym yn ei defnyddio i'n helpu i flaenoriaethu gweithgareddau i reoli’r perygl o lifogydd ar lefel gymunedol. 

Gan ddefnyddio’r gofrestr, gallwn gymharu pa gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru gan ddefnyddio ein modelau ar raddfa genedlaethol. Diffinnir cymuned o set ddata trefi’r Arolwg Ordnans lle tynnir amlinelliad ardal o amgylch pob tref er mwyn dynodi cymuned. Mae 2,207 o gymunedau wedi'u nodi fel hyn yn y gofrestr cymunedau mewn perygl. 

Sgôr cofrestr cymunedau mewn perygl 

Mae'r gofrestr yn cyfrifo ‘sgôr perygl’ ar gyfer cymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn ein galluogi i drefnu cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, o'r rhai â’r risg uchaf i'r rhai â’r risg isaf.   

Mae’n nodi ac yn rhestru cymunedau unigol yng Nghymru ar gyfer: 

  • senario ‘diamddiffyn’ naturiol, lle nad oes amddiffynfeydd rhag llifogydd na gwasanaeth rhybuddio ar waith 
  • senario a reolir, lle mae amddiffynfeydd a rhybuddion llifogydd ar waith 

Rydym yn cyfrifo'r sgôr perygl ar gyfer senario 'diamddiffyn' naturiol gan ddefnyddio'r data canlynol:  

  • maint llifogydd: yr ardal y sydd o dan ddŵr llifogydd  
  • derbynyddion: beth sydd mewn perygl o lifogydd 
  • perygl: pa mor ddwfn a chyflym y rhagwelir y bydd y llifddwr 
  • pa mor gyflym y maent yn dechrau: pa mor fuan ar ôl glaw mae'r afon yn codi i'w lefel uchaf 
  • amlder: pa mor aml y disgwylir i lifogydd ddigwydd 
  • bregusrwydd cymdeithasol: pa mor agored i niwed y mae grwpiau cymdeithasol i effeithiau llifogydd, gan gynnwys anafiadau, colledion neu darfiad ar fywoliaeth  

I gyfrifo’r risg a reolir, rydym yn defnyddio’r un data ac yn cynnwys: 

  • data ar ba rybuddion llifogydd sydd ar gael 
  • pa amddiffynfeydd llifogydd sy'n bresennol mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd 

Mae'r ymarfer hwn yn ein helpu i ddeall sut mae'r sgôr perygl yn newid ar gyfer cymunedau lle rydym wedi rhoi camau ar waith i reoli’r perygl o lifogydd.  

Mae'r gofrestr cymunedau mewn perygl yn defnyddio'r data hwn i gyfrifo sgôr perygl ar lefel gymunedol. Rydym yn defnyddio hwn i raddio cymunedau ledled Cymru.

Daw methodoleg y gofrestr o ymchwil a wnaed yn 2006 gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i gyfrifo’r risg i’r boblogaeth ar sail y perygl o lifogydd a pha mor agored i niwed yw pobl ac ardal.  

Ni fydd y gofrestr yn rhoi ateb ynghylch a allai prosiect fod yn bosibl, ac ni fydd ychwaith yn ystyried rhinweddau gwahanol opsiynau i reoli’r perygl o lifogydd yn lleol. Ystyrir y materion hyn mewn gwaith prosiect manwl pellach. 

Yr hyn nad yw'r gofrestr cymunedau mewn perygl yn ei gynnwys 

Nid yw'r gofrestr yn cynnwys:

  • sgôr ddangosol ar gyfer eiddo unigol sydd mewn perygl – mae’r gofrestr yn dynodi risg ar raddfa gymunedol gyfan yn unig 
  • sgôr ar gyfer risg a reolir yn achos dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain: dim ond un sgôr ddiamddiffyn sy’n bodoli ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain 
  • perygl o lifogydd gan ddŵr daear – yng Nghymru nid ystyrir bod y perygl o lifogydd gan ddŵr daear yn broblem sylweddol o gymharu â ffynonellau llifogydd eraill 
  • perygl o lifogydd o gronfeydd dŵr – rheolir cronfeydd dŵr gan gyfundrefn reoleiddio gadarn sy’n lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd i lefel isel iawn 
  • methiant amddiffynfeydd rhag llifogydd – tybir na fydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn methu, ond gallant orlifo os yw lefel y llifogydd yn uwch na'r amddiffynfeydd   
  • y perygl o lifogydd gan donnau’n gorlifo mewn ardaloedd arfordirol – dim ond lefelau llifogydd dŵr llonydd heb donnau a ddefnyddir 

Sut i gael mynediad at y gofrestr cymunedau mewn perygl

Mae'r gofrestr ar gael ar ffurf map a thaenlen Excel ar DataMap Cymru lle dangosir sgôr a safle’r gofrestr ar gyfer pob cymuned. Mae'r map hefyd ar gael ar y Porth Amgylcheddol

Diweddaru'r gofrestr cymunedau mewn perygl

Nid yw'r gofrestr yn sefydlog. Mae gennym raglen ddatblygu barhaus y byddwn yn ei defnyddio i gyflawni gwelliannau i'r gofrestr, a gyhoeddir bob dwy flynedd yn y gwanwyn. Caiff y diweddariad nesaf ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2025.  

Defnyddwyr eraill y gofrestr cymunedau mewn perygl

Rydym yn dosbarthu’r gofrestr i awdurdodau llifogydd lleol arweiniol. Gallant ei defnyddio fel cymorth i wneud penderfyniadau ar reoli’r perygl o lifogydd. Mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i lywio’u dyraniadau cyllid drwy’r rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.  
 

Sut rydym yn sicrhau cyllid ar gyfer gwaith i reoli’r perygl o lifogydd

Rydym yn defnyddio ein mapiau perygl o lifogydd, y gofrestr cymunedau mewn perygl a gwybodaeth am ba gymunedau sydd wedi profi effeithiau llifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fabwysiadu dull seiliedig ar risg o flaenoriaethu prosiectau i reoli’r perygl o lifogydd. 

Ar gyfer y cymunedau hynny lle credwn fod angen prosiect i reoli’r perygl o lifogydd, rydym yn cynnal asesiad ar lefel leol i ddeall y cyfleoedd, y cyfyngiadau, y costau, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â datblygu gwaith. Os byddwn yn penderfynu bod angen prosiect yn dilyn yr asesiad hwn, byddwn yn ffurfioli’r gwaith hwn drwy achos busnes a ddatblygir yn unol â chanllawiau achos busnes rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru.  

Mae holl brosiectau arfaethedig CNC a’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yna cânt eu hasesu yn erbyn meini prawf penodol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • lefel y perygl o lifogydd (a bennir trwy'r gofrestr cymunedau mewn perygl) 
  • hanes llifogydd diweddar (amlder a nifer y cartrefi o dan ddŵr) 
  • ffactorau eraill gan gynnwys nifer y cartrefi sy'n elwa ar y prosiect 

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y prosiect arfaethedig yn derbyn cyllid ar sail flynyddol drwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn rheoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. 

Rydym yn rheoli ein prosiectau rheoli perygl llifogydd o fewn ein rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhaglen yn cynnwys rhwng 200 a 300 o brosiectau bob blwyddyn. Mae’r canlyniadau a gyflawnir drwyddi yn cynnwys eiddo sy’n elwa ar gael perygl llai o lifogydd wrth i ni adeiladu neu wella cynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru. 

Defnyddir cyfran sylweddol o'r cyllid bob blwyddyn ar gynlluniau lliniaru llifogydd ar raddfa fawr.  Mae elfennau pwysig eraill y rhaglen yn cynnwys:  

  • cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd sy’n bodoli eisoes 
  • gwaith atgyweirio 
  • prosiectau modelu’r perygl o lifogydd 
  • gwella systemau a gwasanaethau rheoli perygl llifogydd hanfodol 
  • buddsoddi yn ein rhwydwaith o orsafoedd monitro lefelau afonydd 
  • cael yr offer newydd sydd ei angen i gyflawni ein gweithgareddau, gan gynnwys cerbydau a pheiriannau  
  • datblygu strategaethau hirdymor ar gyfer ein strwythurau mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd  

Gallwch weld ein holl brosiectau sy’n ymwneud â chynlluniau lliniaru llifogydd yn Prosiectau amddiffyn rhag llifogydd.  

Cysylltwch â ni os oes gennych adborth neu os hoffech wybod mwy: fra.wales@cyfoethnaturiolwales.gov.uk 

Diweddarwyd ddiwethaf