Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Cors Crymlyn yw ffen mwyaf iseldir Cymru ac mae’r gwelyau hesg a’r corslwyni yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion, adar a phryfed y gwlypdir.
Y ffordd orau o brofi’r Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw drwy gerdded ar hyd y llwybrau sy’n cynnwys llwybrau pren drwy ganol y gors.
Cors Crymlyn yw un o’r safleoedd gwlyptir pwysicaf yn Ewrop ac mae’n rhyfeddol ei bod wedi goroesi o ystyried mor agos ydyw at Abertawe ddiwydiannol.
Dros y blynyddoedd, bu’n gymydog i burfa olew, gorsaf bŵer a thip sbwriel, ynghyd â sawl pwll glo a safleoedd diwydiannol eraill, ac eto, arhosodd y gors yn gyflawn a di-nam i bob pwrpas.
Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, sydd ychydig yn llai, ond ceir llwybr pren yma sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr hwn yn dilyn y llwybrau pren allan i ganol y gors.
Gwrandewch am gân adar y gorsle ar ddechrau’r haf, a chadwch lygad am yr arddangosfa hyfryd o flodau gwylltion yn ystod y gwanwyn a’r haf.
Mae’r llwybr hwn, sydd ychydig yn hirach, hefyd yn dilyn y llwybr pren, ond mae’n dychwelyd heibio i’r ‘Cae Balŵn’.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma ble roedd safle balŵn mawr a osodwyd i geisio atal ymosodiadau o’r awyr gan yr Almaenwyr ar burfa olew Llandarcy – mae’r pwyntiau angori concrit crwn yn dal yn amlwg yn y ddaear.
Mae Cors Crymlyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Bydd niferoedd mawr o deloriaid amrywiol yn cael eu magu yma – telor y cawn a thelor yr helyg yn enwedig, ynghyd â thelor Cetti, telor y gwair, bras y cyrs a rhegen y dŵr.
Ar ddechrau’r haf bydd y warchodfa’n fwy gan sŵn adar yn canu wrth iddynt sefydlu’u tiriogaeth.
Ymysg ymwelwyr prinnach, a welir fel arfer yn ffeniau Dwyrain Anglia, mae boda’r wern, titw barfog ac aderyn y bwn.
Fe allwch chi hefyd weld y boda, cudyll coch, gwalch glas a’r barcud yn hedfan uwchlaw’r warchodfa.
Mae’n hawdd iawn gweld gwas y neidr a’r fursen, sydd mor niferus yma wrth iddynt hofran a gwibio dros ddŵr agored y gors.
Mae ieir bach yr haf yn lluosog yma hefyd, fel y glöyn brwmstan.
Mae corryn mwyaf a phrinnaf Prydain, corryn rafft y ffen, yn byw yma. Dim ond mewn ardaloedd o ddŵr agored y bydd yn byw, felly mae’n annhebygol iawn y gwelwch chi un ohonynt pan fyddwch chi’n ymweld.
Ymysg y cyrs a’r hesg, gwelir blodau sy’n nodweddiadol o dir gwlyb gan gynnwys y gellesgen felen, pumbys y gors a’r llafnlys mawr.
Chwiliwch am y clystyrau mawr o’r rhedyn blodeuog hefyd, sy’n un o nodweddion hynod Crymlyn.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos
Dim ond ar gyfer ymweliadau neu ddigwyddiadau a archebir ymlaen llaw y bydd y ganolfan ymwelwyr yn agor.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn 2 filltir i'r dwyrain o Abertawe.
O Abertawe, cymerwch yr A483 (sef Ffordd Fabian) tuag at Gaerdydd a'r M4.
Ar ôl 1 milltir, trowch i'r chwith i gymryd yr isffordd sydd ag arwydd at Neuadd Chwaraeon Gymunedol Ashlands.
Dilynwch y ffordd hon (Teras Wern) a throwch i'r dde wrth y gyffordd-T ymlaen i Ffordd Gogledd Tir John.
Dilynwch y ffordd gul hon am ¾ milltir ac mae'r maes parcio ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SS 685 942 (Explorer Map 165.
Y cod post yw SA1 8LN. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Abertawe.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.