Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yw un o'r systemau twyni pwysicaf sy’n parhau i dyfu yng Nghymru.
Mae’r tirlun arfordirol trawiadol hwn yn un o’n trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid, a’r cyfan wedi’u haddasu’n benodol i fywyd ar ymyl y môr.
Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn y De, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd arfordir Ardudwy.
Mae llwybr cyhoeddus o faes parcio Min y Don at y traeth (trowch i’r dde ar hyd y traeth i gyrraedd y warchodfa.
Mae rhai rhannau o'r safle wedi'u ffensio i ganiatáu pori neu i ddiogelu planhigion twyni bregus.
Mae amrywiaeth eang o adar yn nythu ar y traeth, yn y twyni ac yn y forfa heli, ac mae’n rhwydd tarfu arnyn nhw.
Cofiwch gadw’ch cŵn ar dennyn:
Mae Morfa Harlech yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Mae hwn yn amser da i weld llawer o’r planhigion blodeuol sy’n tyfu yng nglaswelltiroedd a llaciau’r twyni.
Mae sawl math o flodyn gwyllt a mwsogl yn byw yma sy'n brin ac yn anfynych yn genedlaethol. Mae'r tegeirianau gwyllt yn cynnwys caldrist y gors sy'n tyfu ochr yn ochr â thegeirian-y-gors gogleddol ymhlith gwelyau o ellesg.
Mae yna lu o flodau gwyllt lliwgar i’w mwynhau o ddechrau’r gwanwyn ymlaen. Mae’r ganrhi goch, blodau trilliw a fioledau yn ymddangos yn gynnar ac yna’n fuan daw rhywogaethau arfordirol eraill gan gynnwys y tagaradr, pysen-y-ceirw a llawer o rai eraill.
Yn y misoedd cynhesach, mae amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol i’w gweld yng nglaswelltiroedd y twyni a’r llaciau. Mae'r rhain yn cynnwys trilliw, rhwyddlwyn, teim gwyllt, a thegeirian bera. Efallai y byddwch hefyd yn dod ar draws helys pigog, tywodlys dail teim a hegydd arfor ar y bwa hir o dwyni sy'n tyfu ar draeth uchaf Trwyn Harlech.
Mae yma hefyd gytrefi o'r tegeirian llydanwyrdd bach sy’n eithaf prin - Gorffennaf yw'r mis gorau i weld y rhywogaeth hon.
Chwiliwch am loÿnnod byw fel y copor bach, y fritheg werdd, gweirlöyn y perthi a’r gweirlöyn llwyd a gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd fel teigr y benfelen a’r bwrned pum smotyn.
Mae pryfed eraill fel rhai o’n gwenyn turio prinnaf, gwenyn meirch unigol a chwilod yn dibynnu ar dywod noeth ac efallai y gwelwch fadfall y tywod hefyd.
Mae'r warchodfa'n cynnal poblogaethau o grwynllys yr hydref sydd â blodau porffor hardd.
Mae glaswelltiroedd sychach y twyni yn adnabyddus fel cynefin da i gasgliadau cyfoethog o ffyngau.
Mae'r gwastadeddau tywod a'r morfeydd heli yn aber Afon Ddwyryd yn fannau bwydo pwysig i adar hirgoes ac adar dŵr sy’n gaeafu.
Mae adar hirgoes yn defnyddio’r traeth ond, os edrychwch chi y tu hwnt i’r lan, efallai y gwelwch chi wyachod a throchyddion sy’n gaeafu a heidiau mawr o fôr-hwyaid duon.
Ymhlith y rhywogaethau adar eraill sy'n ymddangos yn y warchodfa yn y gaeaf mae brain coesgoch, bodaod tinwyn a chudyllod bach.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.
Mae Morfa Harlech wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn llai na 1 filltir i’r gorllewin o Harlech
Y cod post yw LL46 2UG.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Yn Harlech, cymerwch y troad wrth yr orsaf reilffordd sydd ag arwydd at y traeth
Dilynwch y ffordd fach hon, sef Ffordd Glan Mor, am hanner milltir ac mae maes parcio Min y Don ar ddiwedd y ffordd.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 574 316 (Explorer Map OL 18).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Harlech.
Mae gwasanaeth bws o’r de (Y Bermo) ac o’r gogledd (Maentwrog) ar hyd yr A496. Mae safle bws ar ffin Ffordd Glan Mor.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Y prif fynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yw drwy maes parcio Min y Don ar Ffordd Glan Mor.
Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd.
Rhaid talu am barcio.
I gael gwybodaeth am oriau agor a thaliadau parcio ewch i wefan Cyngor Gwynedd.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.