Cynllun Adnoddau Coedwig Brechfa - Cymeradwywyd 19 Rhagfyr 2024

Lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Brechfa yn cwmpasu 5,918 hectar ar draws tri phrif floc:

  • Mae Dwyrain Brechfa yn floc 3,063 hectar
  • Mae Gorllewin Brechfa yn floc 2,131 hectar
  • Mae Gorllewin Caerfyrddin yn floc 724 hectar

Mae Coedwig Brechfa wedi’i leoli yn bennaf o fewn Dyffryn Cothi a’i llednentydd gorllewinol. Mae cyrion gogleddol Gorllewin Brechfa tuag at gyrion gogledd-ddwyreiniol Dwyrain Brechfa wedi’u dominyddu gan fynyddoedd Mynydd Llanfihangel Rhos-y-corn, Mynydd Llanllwni, Pen Llwyn-uchel a Mynydd Llanybydder, sydd wedi’u hamgylchynu gan rostir a gweundir helaeth. Tir comin yw’r ardal hon, heb unrhyw ddynodiadau.

Mae’r coetir yn llawn hanes ac fe’i sefydlwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth fel coedwig gynnar yn ne Cymru. Mae’r goedwig yn ymgorffori safleoedd coetir hynafol a hefyd yn cynnwys bryniau agored a thir amaethyddol o fewn ehangder ehangach y goedwig. Mae hyn yn golygu bod yma gyfle i adfer gweddillion y coetir hynafol a chreu coedwig fwy bioamrywiol i’r dyfodol. Mae’r goedwig yn cael ei chydnabod fel coedwig gynhyrchu graidd a bydd y nodwedd hon yn cael ei chadw wrth inni fanteisio ar y cyfle i newid y systemau rheoli coedwigoedd yn orchudd parhaus lle mae’r cyfle’n codi. Bydd goruchafiaeth o goed conwydd masnachol cynhyrchiol yn parhau i ffurfio mwyafrif y goedwig ond bydd hyn yn gweld mwy o ddatblygiad o strwythur rhywogaethau cymysg gyda choed brodorol yn cael tyfu o fewn y blociau conwydd er mwyn gwella gwytnwch y goedwig a gwella bioamrywiaeth.

Mae gan brif flociau Brechfa bedwar maes parcio penodol gyda llwybrau beicio a cherdded yn cychwyn o faes parcio Abergorlech. Mae darpariaeth debyg ar gyfer maes parcio Bergwm a bydd llwybr cerdded cylchol newydd ar gael yn fuan o faes parcio Gwarallt, a elwir hefyd yn Keepers, fel rhan o ddarpariaeth hamdden datblygiad fferm wynt Gorllewin Brechfa. Mae hyn yn ychwanegol at lwybr presennol Keepers Lodge. I’r gogledd mae maes parcio Rhos Blaen Gorlech yn cael ei ddefnyddio’n aml gan ddefnyddwyr marchogol ac mae llwybr beicio mynydd Gorlech yn dod i ben yn y fan hon.

Cyfleoedd yng nghoedwig Brechfa 

Mae ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn greiddiol i’r Cynllun Adnoddau Coedwigoedd arfaethedig. Bydd adfer coetir hynafol a datblygu coetir glannau brodorol dros amser nid yn unig yn helpu i gloi carbon ond hefyd yn darparu lloches i lawer o rywogaethau, yn fflora a ffawna a dyfrol a daearol. Bydd y ffocws o’r newydd ar dyfu pren o ansawdd uchel a newid i systemau rheoli coedwigoedd gorchudd di-dor hefyd yn cynnal diwydiant cynhyrchion coedwig gwerth uchel sy’n cloi carbon am gyfnod hwy ac yn lleihau dŵr ffo mewn tywydd eithafol.

Cynhyrchu pren

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren a gwneud y mwyaf o ardaloedd cynhyrchiol trwy ddewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwigoedd.

Amrywiaeth y rhywogaethau

Parhau i wella gwydnwch coetir trwy amrywio’r rhywogaethau ailstocio mewn ardaloedd lle ceir amodau pridd addas er mwyn eu hamddiffyn rhag plâu a chlefydau ac i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.Mae cyfle ar gael lle mae Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol o ran gwaith cwympo coed llarwydd wedi’i gwblhau.

Adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol

Parhau i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) i gyflwr coetir lled-naturiol trwy blannu rhywogaethau llydanddail a defnyddio rheolaeth systemau coedamaeth bach eu heffaith (LISS) mewn ardaloedd sydd wedi’u hamlygu â photensial adfer canolig i uchel, tra’n cefnogi’r gwaith o amrywio dosbarth oedran a strwythur y goedwig. Parhau i wella cysylltedd cynefinoedd coetir hynafol a lled-naturiol yn ystod y broses hon.

Gwarchod nodweddion ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA) a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA)

Ymestyn a datblygu rhwydwaith o goetiroedd glannau afon er budd ansawdd a maint y dŵr er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith gan weithrediadau coedwigoedd ar ardaloedd cadwraeth arbennig Teifi a Thywi. Cyflwyno cyfarwyddiadau rheoli pwrpasol i gefnogi’r SoDdGA sydd wedi’i ddynodi yn nalgylch Marlais.

Rhywogaethau a warchodir

Gweithio mewn partneriaeth â grŵp llywio ecolegol Fferm Wynt Gorllewin Brechfa i hyrwyddo cadwraeth a chreu cynefinoedd y mae eu hangen ar gyfer poblogaeth bwysig y troellwr mawr.

Iechyd a llesiant

Hyrwyddo mynediad a defnydd coedwig ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr er budd lles meddyliol, corfforol ac iechyd yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol. Cynnal y ddarpariaeth bresennol ar gyfer diddordebau cerdded, marchogaeth, beicio mynydd a chrwydro.

Cysylltedd cynefinoedd

Parhau i gefnogi’r gwaith o gysylltu cynefinoedd a chysylltedd mewn ardaloedd addas ochr yn ochr â pharthau glannau afon, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol.  Bydd hyn yn cael ei ystyried o safbwynt y tu mewn a’r tu allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cloddiau cysylltu a gweddillion coetir hynafol).

Nodweddion treftadaeth

Nodi lleoliadau sydd â nodweddion treftadaeth a pharthau effaith er mwyn osgoi difrod neu eu gorchuddio.

Rheoli ceirw

Datblygu seilwaith rheoli ceirw i frwydro yn erbyn yr effaith gynyddol ar ailstocio ac adfywio naturiol ledled Cymru.  

Estheteg a thirwedd

Cadw cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd gyfagos ac ystyried y canfyddiad gweledol er budd yr ymwelwyr a’r trigolion.

Cyswllt fferm wynt

Parhau i ddatblygu strategaethau rheoli i gyd-fynd â’r asedau ynni sy’n cael eu datblygu ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

Mapiau

Dwyrain Brechfa

Gorllewin Brechfa

Cyrion Brechfa

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf