Ceisio barn am sut mae coedwigoedd yng nghwm Taf Isaf a’r Fro yn cael eu rheoli
![Cerdded teulu Cerdded teulu](https://cdnfd.cyfoethnaturiol.cymru/media/693808/fforest-fawr0063.jpg?anchor=center&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=132695194038200000)
Gwahoddir pobl sy'n mwynhau defnyddio rhai o'r coetiroedd mwyaf poblogaidd ar draws Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd i ddweud eu roi eu barn ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu eu rheoli yn y dyfodol.
Mae CNC – sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 25 mlynedd ar gyfer coetiroedd ardal Cwm Taf Isaf a’r Fro, sy'n gorchuddio tua 877 hectar.
Y coetiroedd yw:
- Fforest Fawr – i'r gogledd o Gaerdydd ger Tongwynlais.
- Ty'n y Coed – i'r gogledd o Greigiau, gogledd-orllewin Caerdydd.
- Coetir y Barri – i'r gogledd o'r Barri ym Mro Morgannwg.
- Hensol – i'r dwyrain o Llanddunwyd ym Mro Morgannwg.
- Tair Onen - i'r de o Llanddunwyd ym Mro Morgannwg.
- Coed y Gedrys – mae rhan ogleddol o'r coetir i'r gorllewin o Nantgarw yn Rhondda Cynon Taf. Mae rhan ddeheuol y goetir ger Gwaelod y Garth ar gyrion Caerdydd.
- Llantrisant (Garthmaelwg) – i'r gorllewin o Lantrisant yn Rhondda Cynon Taf.
- Trecastell – i'r gorllewin o Donysguboriau yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r coetiroedd yn cynnig porth i bobl grwydro'r awyr agored a mwynhau natur, a thafliad carreg oddi wrth yr ardaloedd mwyaf poblog yn y wlad.
Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar sut y bydd CNC yn parhau i fynd i'r afael â'r coed llarwydd heintiedig yn yr ardal.
Gall pobl ddarllen y cynlluniau'n fanwl a gadael adborth drwy ymgynghoriad ar-lein CNC.
Mae CNC hefyd yn trefnu sesiynau galw heibio cyhoeddus i bobl leol weld y cynlluniau wyneb yn wyneb a siarad gyda chynllunwyr coedwig.
- 27 Hydref 2022, 3:15pm – 6:45pm yn Neuadd Bentref Pentyrch, CF15 9QR
- 9 Tachwedd 2022, 2:00pm – 6:00pm yn Neuadd Bentref Tylagarw, CF72 9ET
Meddai Richard Phipps, Uwch Swyddog – Cynllunio Coedwig, ar gyfer CNC:
"Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i'n ambylchedd naturiol ac i'n cymunedau. Maent yn helpu ni yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, a lleoedd gwych i ni i gyd dreulio amser ac i fwynhau.
"Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut y dylent cael eu rheoli yn y dyfodol.
"Ymunwch â ni yn un o'n digwyddiadau cymunedol neu cwblhewch ein harolwg ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau y gall yr ardaloedd hyn barhau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod."
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 14 Tachwedd 2022.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond na all weld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu ebostio frp@cyfoethnaturiol.cymru i ofyn am gopi caled.
Gall preswylwyr sy'n dymuno anfon adborth drwy'r post ei anfon at:
Cynllun Adnoddau Coedwig Taf Isaf a’r Fro
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP