Dyn o Dde Cymru yn euog o droseddau gwastraff anghyfreithlon
Mae dyn o Dde Cymru wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am storio gwastraff ar safle yng Nghaerllion, heb drwydded amgylcheddol.
Gorchmynnwyd William Hanson o Hanson Paving & Development Ltd, i dalu cyfanswm cyfunol o £5782.00, ar ôl pledio’n euog fel unig gyfarwyddwr y cwmni, o storio gwastraff cymysg a gwastraff rwbel yn 115 Heol Nash yng Nghaerllion heb drwydded amgylcheddol ac am fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad i symud y gwastraff.
Mae’r rhain yn droseddau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Aeth swyddogion CNC draw i’r safle am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2023, ar ôl derbyn adroddiadau o weithgarwch gwastraff anghyfreithlon ar y safle.
Ar ôl cyrraedd yno daethant o hyd i bentyrrau o wastraff cymysg, gan gynnwys pridd, cerrig, brics, a gwastraff dymchwel adeiladu yn ogystal â phren, plastig a theiars. Nid oedd unrhyw esemptiadau gwastraff na thrwydded amgylcheddol wedi eu trefnu a oedd yn awdurdodi unrhyw weithgaredd gwastraff ar y safle.
Cyflwynwyd hysbysiad i Mr Hanson yn mynnu bod y gwastraff yn cael ei symud oddi yno.
Cafodd ei hysbysu hefyd gan swyddogion bod cadw neu gael gwared o wastraff ar dir heb drwydded amgylcheddol neu esemptiad perthnasol yn anghyfreithlon a dywedwyd wrtho nad oedd unrhyw wastraff pellach i'w waredu ar y safle.
Fodd bynnag, yn ystod ymweliad dilynol ym mis Tachwedd 2023, canfu swyddogion CNC fod Mr Hanson wedi methu â chydymffurfio’n llawn â’r hysbysiad drwy gael gwared ar y gwastraff.
Meddai Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym yn trin adroddiadau am wastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon yn ddifrifol iawn. Mae'r gweithgaredd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac yn tanseilio gweithredwyr gwastraff cyfreithlon sy'n cadw at y rheolau.
Mae rheoliadau amgylcheddol yn cael eu trefnu am reswm. Mae angen trwyddedau ar gyfer busnesau sy'n symud ac yn storio gwastraff, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peryglu’r amgylchedd na iechyd pobl.
Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir ein bod yn trin troseddau o'r math hwn yn ddifrifol iawn. Ni fyddwn yn oedi cyn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur ac i helpu i ddiogelu'r farchnad i weithredwyr cyfreithlon.
Plediodd Mr Hanson yn euog yn Llys Ynadon Casnewydd a chafodd ei ddedfrydu ddydd Llun, 6 Ionawr a rhoddwyd gorchymyn iddo dalu dirwy o £1173. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu costau CNC o £4140 a gordal dioddefwr o £469 gan ddod â’r holl gyfanswm i £5782.00.
Ar hyn o bryd mae Mr. Hanson yn y carchar. Bydd yr arian hwn yn daladwy pan gaiff ei ryddhau
Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad