Gwahodd trigolion yn ardaloedd gogledd Dyffryn Gwy i roi eu barn ar gynlluniau rheoli coedwigoedd newydd
![Merch yn taflu dail mewn coedwig Merch yn taflu dail mewn coedwig](https://cdnfd.cyfoethnaturiol.cymru/media/ailcje0z/capture.png?anchor=center&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133450436281530000)
Mae trigolion sy’n mwynhau defnyddio rhai o’r coetiroedd mwyaf poblogaidd yn ardal ogleddol Dyffryn Gwy yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynlluniau i’w rheoli ar gyfer y dyfodol.
Mae CNC, sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) ledled Cymru, wedi datblygu cynlluniau rheoli 10 mlynedd ar gyfer y coetiroedd yng ngogledd Dyffryn Gwy sy’n cynnwys Yr Hendre, Beacon Hill, Comin Trellech a Choed Beddick ymhlith eraill.
Mae’r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli’r coetiroedd a’r coed sydd ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar gyfer sut y bydd CNC yn parhau i fynd i’r afael â’r llarwydd heintiedig yn yr ardal.
Mae CNC hefyd yn cynnal sesiwn alw heibio gyhoeddus i bobl weld y cynlluniau ar gyfer y coetiroedd yn ardal ogleddol Dyffryn Gwy yn bersonol ac i siarad â chynllunwyr coedwig. Cynhelir y digwyddiad galw heibio:
Ar 6 Rhagfyr 2023, rhwng 11.30am a 6pm yn Neuadd Bentref y Narth, Y Narth,Trefynwy NP25 4QN
Dywedodd Laura McLoughlin, Uwch Swyddog Coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i’r amgylchedd naturiol ac i’n cymunedau. Maent yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau yn yr hinsawdd ac yn natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, ac yn lleoedd anhygoel i ni i gyd i dreulio amser ynddynt, i fwynhau ac i gysylltu â natur.
Gwyddom pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am wneud yn siŵr bod y bobl sy’n eu defnyddio yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am sut y cânt eu rheoli yn y dyfodol.
Mae ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn ein helpu i sicrhau y gall yr ardaloedd hyn barhau i ddiwallu anghenion y cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.
Byddem yn annog pobl i ymuno â ni yn ein sesiwn alw heibio ar 6 Rhagfyr neu i gwblhau ein harolwg ar-lein ac i ddweud eu dweud.
Gall pobl ddarllen y cynlluniau yn fanwl a gadael adborth trwy ymgynghoriad ar-lein CNC:
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 20 Rhagfyr 2023
Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan ond nad yw’n gallu gweld y cynigion ar-lein gysylltu â 03000 65 3000 neu e-bostio frp@cyfoethnaturiol.cymru a gofyn am gopi caled.
Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon at:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Heol Hadnock
Trefynwy
Sir Fynwy
NP25 3NQ