Dinistr Storm Darragh yn effeithio ar y calendr ralïo
![](https://cdnfd.cyfoethnaturiol.cymru/media/rlzn1mj0/darragh-2.jpg?anchor=center&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133814992129130000)
Mae calendr chwaraeon moduro Cymru wedi’i effeithio gan dinistr a achoswyd gan Storm Darragh ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC.
Yn sgil y gwyntoedd hynod o uchel, mae miloedd o dunelli o goed wedi syrthio ac yn rhwystro ffyrdd coedwig ac yn atal mynediad i lawer o ardaloedd ac o ganlyniad mae CNC wedi penderfynu canslo digwyddiadau ralïo yn Nyfnant ar 16 Mawrth a Hafren ar 13 Ebrill.
Dywedodd Dave Liddy, Prif Gynghorydd Arbenigol Cynllunio Hamdden Ystadau ar gyfer CNC:
"Mae Storm Darragh wedi effeithio ar ein hystad goetir gyfan a bydd y gwaith clirio’n cymryd sawl mis i'w gwblhau.
"Mae canolbarth a de-orllewin Cymru wedi cael eu taro'n arbennig o galed, ac mae llawer o ardaloedd yn parhau i fod yn anhygyrch i dimau coedwigaeth CNC, felly rydym wedi penderfynu canslo digwyddiadau mis Mawrth ac Ebrill.
"Mae hyd yn oed y ffyrdd sydd yn glir yn peri risg iechyd a diogelwch i’r rhai sy’n ralïo a’r rhai sy’n gwylio.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Motor Sports UK a'r Autocycle Union i'w hysbysu o'n cynlluniau a rhoi cymaint o rybudd â phosib i drefnwyr ralïau o'r penderfyniad i ganslo a thrafod y tebygolrwydd y bydd ralïau yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn digwydd."
Mae ymdrechion CNC i asesu’r difrod a dechrau'r broses adfer wedi cael eu rhwystro ymhellach gan dywydd rhewllyd dechrau mis Ionawr ac mae'n cyfeirio adnoddau i fynd i'r afael â digwyddiadau sydd wedi deillio o'r storm a sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar ei weithrediadau cynaeafu.
Ychwanegodd Dave Liddy:
"Mae adroddiadau cychwynnol yn awgrymu bod Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Cymru wedi cael eu heffeithio'n llai na gweddill y wlad, felly mae llygedyn o obaith y gallai Rali Plains ddigwydd ar 18 Mai, ond byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa cyn gwneud penderfyniad terfynol.
"Does gennym ni ddim syniad a fydd ralïau'n hwyrach yn y flwyddyn yn cael eu heffeithio, gan nad ydyn ni'n gallu mynd i mewn i Goedwig Crychan na Choedwig Halfway i archwilio’r difrod; dyma lle mae Cymalau Nicky Grist i fod i ddigwydd ym mis Gorffennaf.
"Mae'r un peth yn wir am Goedwig Ceri, sy'n cynnal Rali Woodpecker ym mis Medi; does dim modd cyrraedd yno oherwydd y lleoliad anghysbell."
Dywedodd Hugh Chambers, Prif Swyddog Gweithredol Motorsport UK,
"Mae Motorsport UK wedi gweithio'n barhaus gyda CNC yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau dyfodol hirdymor i ralïo ar yr ystad.
"Er ein bod yn siomedig o glywed am ganslo’r digwyddiadau, rydym yn deall safbwynt CNC ac wedi cynnig ein cymorth i CNC a'u staff ar yr adeg anodd hon."