Posibilrwydd o lifogydd a phroblemau wrth i law trwm gael ei ragweld i Gymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn wyliadwrus oherwydd y posibilrwydd o lifogydd a phroblemau dŵr wyneb yn dilyn rhagolygon o law trwm a gwyntoedd cryfion ledled Cymru.

Mae rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd am law mewn grym o 3pm heddiw (31 Rhagfyr) tan 11am yfory (1af Ionawr). Disgwylir y cyfansymiau glawiad uchaf ar draws tir uchel yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn enwedig mewn rhannau o Wynedd, Conwy a rhannau gogleddol Ceredigion a Phowys.

Mae timau ymateb i ddigwyddiadau CNC yn gweithio gydag ymatebwyr brys eraill ac awdurdodau lleol, ac yn sicrhau bod amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn cyflwr da ac yn gwneud paratoadau i helpu i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel. 

Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gall y bydd angen iddynt eu cymryd nawr i fod yn barod, ac i gymryd gofal ychwanegol os oes angen iddynt deithio yn ystod y cyfnod hwn.

Gan fod rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym rhwng 12.15am a 3pm yfory (1af Ionawr), rydym hefyd yn gofyn i bobl osgoi teithio i'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd a chadw draw o lan y môr a phromenadau.

Mae'r camau y dylid eu cymryd nawr er mwyn paratoi yn cynnwys:

  • Meddyliwch  sut y gallwch chi  baratoi eich cartref a’ch busnes nawr.  Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd. 

Bydd CNC yn cyhoeddi negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau penodol a bydd ein timau'n monitro lefelau 24 awr y dydd.  

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod yn golygu bod llifogydd yn bosib, mae rhybuddion llifogydd yn golygu bod disgwyl llifogydd, ac mae rhybuddion llifogydd difrifol yn golygu bod bygythiad i fywyd ac y disgwylir problemau sylweddol.

Meddai Charlotte Morgan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:

"Mae'r glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion sy’n cael eu rhagweld yn debygol o amharu ar ardaloedd ledled Cymru ar Nos Galan a Dydd Calan, ac rydym yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus a chadw golwg ar y perygl o lifogydd.

"Mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd yn y rhagolygon ond, ar hyn o bryd, disgwylir y cyfansymiau glawiad uchaf dros dir uchel yn y Gogledd a’r Canolbarth. Mae disgwyl i rannau helaeth o Gymru weld glaw trwm dros nos ac i mewn i yfory a allai arwain at broblemau dŵr wyneb, ac achosi i afonydd godi'n gyflym, gan gynyddu'r perygl o lifogydd.

"Bydd ein timau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r risg i gymunedau, ond rydym eisiau sicrhau bod pobl yn gwneud popeth a allant i gadw eu hunain yn ddiogel. Dylai pobl gadw draw o afonydd sydd â llif uchel, a pheidio â gyrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd - mae'n aml yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos ac yn gallu cynnwys peryglon cudd.

"Yn dilyn y difrod a achoswyd yn ystod Storm Darragh, diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac mae'r perygl o goed neu ganghennau’n syrthio yn dal i fod yn broblem sylweddol. Felly gofynnwn i bobl osgoi ymweld â’n safleoedd ac efallai y byddwn yn cau ein meysydd parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd.

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud. 

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. 

Gall pobl edrych ar ein gwefan i ddod o hyd i gyngor ymarferol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd, fel symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau a gofalu bod eitemau allweddol fel dogfennau pwysig a meddyginiaeth ar gael yn hwylus mewn pecyn llifogydd.