Cymeradwyo cais cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd Llyswyry
![Cyfoeth Naturiol Cymru logo Cyfoeth Naturiol Cymru logo](https://cdnfd.cyfoethnaturiol.cymru/media/4997/nrw_logo_cmyk_stack.jpg?center=0.14352941176470588,0.24333333333333335&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133129796495900000)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd ar hyd yr Afon Wysg yn Llyswyry gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Bydd y cynllun yn lleihau’r perygl o lifogydd i 2,000 o gartrefi a busnesau ac yn cynnwys cryfhau rhannau o’r arglawdd llifogydd 1350m presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon ac adeiladu muriau llifogydd newydd, giât llifogydd a darn o briffordd newydd.
Cafodd y cais, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf eleni, ei gymeradwyo ar 3 Tachwedd, ac mae’n dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan CNC ym mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021.
Bydd CNC nawr yn caffael contractwr i gyflawni'r cynllun, y disgwylir iddo ddechrau yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Jared Gethin, Project Executive Cyfoeth Naturiol Cymru:
Rydym ni’n falch iawn bod caniatâd cynllunio wedi cael ei sicrhau ar gyfer y cynllun llifogydd newydd yn Llyswyry.
Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, a gwyddwn, o ganlyniad i newid hinsawdd, ein bod ni’n debygol o brofi mwy o lifogydd o ganlyniad i fwy o lawiad a chynnydd parhaus yn lefel y môr.
Un o’n prif nodau yw lleihau a rheoli’r risg o lifogydd o brif afonydd ar môr yn Cymru, ac mae ein hasesiad risg, sydd wedi’i gefnogi gan ein gwaith modelu llifogydd, yn nodi bod Llyswyry mewn risg uchel ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cynllun hwn yn helpu i leihau’r risg llifogydd yn sylweddol i dros 2,000 eiddo a busnes yng Nghasnewydd.
Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â llifogydd wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gallant fynd i’n gwefan i weld eu risg o lifogydd ac i weld os mae ein Gwasanaeth rhybuddio am lifogydd ar gael ar gyfer eu hardal.
Amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd y cynllun yn costio £20m ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â gwella amddiffyniad rhag llifogydd i’r gymuned, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd cymunedol a’r rhan gyfagos o Lwybr Arfordir eiconig Cymru.
Mae hyn yn cynnwys llwybr troed newydd ym Mharc Coronation sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru i greu llwybr cerdded cylchol gyda llwyfannau gwylio newydd ar draws yr Afon Wysg.
Mae tair ‘coedwig drefol’ newydd sy’n cynnwys 1,600 o goed ifainc a newydd hefyd ar y gweill ym Mharc Coronation i gyfiawnhau torri oddeutu 650 o goed a llwyni fel rhan o’r gwaith adeiladu.
Ceir diweddariadau pellach ar y cynllun ar dudalen ymgynghori ar-lein CNC.
Gall pobl weld eu risg llifogydd yn ôl cod post arwefan CNC