CNC yn newid dulliau gwaredu dip defaid gwastraff ar gyfer afonydd glanach
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cyflwyno newidiadau i drwyddedau gwaredu dip defaid gwastraff mewn ymdrech i ddiogelu afonydd Cymru.
Er bod dipio defaid yn bwysig i ddiogelu da byw rhag parasitiaid posibl, mae CNC wedi mesur lefelau uwch o ddiazinon yn amgylchedd dŵr Cymru, cemegyn sy'n wenwynig iawn i'r rhan fwyaf o organebau dyfrol.
Bydd CNC yn rhoi'r gorau i gyhoeddi trwyddedau newydd sy'n caniatáu i ffermwyr waredu dip defaid gwastraff ar y tir. Yn hytrach, bydd angen i ffermydd waredu’r dip gwastraff drwy gludwr gwastraff cofrestredig a fydd yn ei waredu mewn cyfleuster gwastraff addas.
Gall ffermydd sydd â thrwyddedau gweithredol barhau i waredu ar dir am y tro ond yn y pen draw bydd angen gwaredu pob dip gwastraff yn y modd hwn, gan ddod â chysondeb â sut y gwaredir pob gwastraff hylif arall.
Lle nad oes angen i ffermwr waredu dip defaid gwastraff ar y tir bellach, byddant yn gallu ildio eu trwydded am ddim.
Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC:
"Rydym yn gweithio'n gyson i gydbwyso anghenion ffermydd gweithredol gyda'n dyletswyddau i ddiogelu'r amgylchedd ac mae hyn yn aml yn golygu newid graddol i'r ffordd y mae pethau'n gweithio.
"Mae dip defaid wedi cael ei waredu ar dir ers dros 30 mlynedd ond rydym wedi sylwi ar effaith negyddol yn ein hafonydd sy'n achosi i ni fethu â chyrraedd y safonau sy'n ofynnol i ddiogelu'r amgylchedd dŵr.
"Dyma pam rydyn ni wedi penderfynu dileu'r arfer yn raddol gan fod gwell dewisiadau ar gael erbyn hyn.
"Gall y rhai sydd eisoes â chaniatâd i waredu dip defaid ar dir barhau i wneud hynny am y tro, ond byddwn yn gweithio gyda ffermwyr i ddiddymu'r arfer yn raddol yn y pen draw a symud i broses nad yw mor llym ar ein hamgylchedd.
“Er mwyn cefnogi'r newid hwnnw, rydym wedi dileu'r tâl, sydd ar hyn o bryd yn £363, i ildio'ch trwydded os nad oes ei hangen arnoch erbyn hyn."
Gall ffermwyr sydd angen dipio eu defaid ond nad oes ganddynt drwydded ar hyn o bryd:
- Wneud cais i ddefnyddio'r rhaglen Gwaredu Scab a ariennir gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn amau bod clafr yn eu diadelloedd (ahww.cymru).
- Dipio'r defaid eu hunain (os oes ganddynt y tystysgrifau angenrheidiol) a threfnu i gludwr gwastraff cofrestredig gasglu'r dip gwastraff i'w waredu oddi ar y safle.
- Cyflogi contractwr dip defaid symudol i ddipio eu defaid ar eu rhan a chludo’r gwastraff i ffwrdd i’w waredu. Er mwyn hwyluso hyn, gall ffermwyr storio dip gwastraff yn ddiogel ar eu fferm eu hunain am hyd at 12 mis cyn ei gasglu a gall contractwyr dip symudol storio 20,000 litr am hyd at dri mis ar eu safle cyn ei gasglu.
- Mae CNC yn annog ffermwyr i ildio trwyddedau nad oes eu hangen arnynt erbyn hyn. Gellir gwneud hyn am ddim bellach ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ildioch trwydded i waredu dip defaid gwastraff