Gorsafoedd tywydd newydd yn helpu ffermwyr i ragweld y tywydd
![Michael Williams efo gorsaf dywydd sydd wedi'i gosod ar Fferm Fagwr Fran East yn Sir Benfro. Michael Williams efo gorsaf dywydd sydd wedi'i gosod ar Fferm Fagwr Fran East yn Sir Benfro.](https://cdnfd.cyfoethnaturiol.cymru/media/696553/michael-williams-fagwr-fran-east-farm-pembs-umbraco.jpg?anchor=center&mode=crop&quality=80&width=770&height=450&rnd=133268285701270000)
Mae newid hinsawdd a phatrymau tywydd eithafol yn heriau sylweddol i ffermwyr; mae sychder a llifogydd yn gwneud tyfu cnydau o unrhyw fath yn anodd.
I ffermwyr fel Michael Williams o Fferm Fagwr Fran East yn Sir Benfro, mae’n golygu bod yn rhaid iddo addasu ei arferion ffermio’n barhaus ac edrych ar ffyrdd newydd o weithio i gynnal cynhyrchiant y fferm, gan hefyd barhau i warchod yr amgylchedd naturiol.
Ar yr un pryd, mae’r Rheoliadau llygredd amaethyddol 2021 newydd yn golygu bod arferion fel taenu slyri a thail organig arall bellach yn cael eu rheoleiddio’n dynnach, gan roi sylw i ffermwyr a’u ffyrdd o weithio.
Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda’r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth (ARC) ar Gampws Gelli Aur ger Llandeilo i osod mwy o’u Gorsafoedd Tywydd ar ffermydd yn nalgylch afon Cleddau, i helpu ffermwyr i reoli sut maen nhw'n gweithio o amgylch y tywydd a ragwelir.
Mae Dŵr Cymru yn cefnogi prosiect LIFE drwy ariannu gosod chwe Gorsaf Dywydd ar ffermydd yn nalgylchoedd afonydd Gorllewin a Dwyrain Cleddau y mis hwn.
Mae'r gorsafoedd tywydd yn darparu data amser real ar leithder pridd, tymheredd pridd a lleithder dail sy'n allweddol i dyfiant glaswellt a phriodoldeb defnyddio maetholion a chemegion.
Maent hefyd yn rhoi amodau tywydd lleol ac yn darparu rhagolygon y tywydd. Bydd y wybodaeth hon yn galluogi’r ffermwr i daenu maetholion ar y tir ar yr amser iawn ar gyfer y twf gorau posibl a lleihau’r risg y bydd gormodedd o faetholion yn mynd i mewn i’r afon.
Bydd hyn yn golygu bod rhwydwaith sylweddol o ddata a gwybodaeth ar gael i helpu gwneud penderfyniadau, a fydd yn cynorthwyo Michael a ffermwyr eraill i addasu eu gwaith i amodau tywydd eithafol a fydd yn amddiffyn bywoliaethau a’r amgylchedd naturiol.
Dywedodd Michael Williams: “Fel ffermwyr, rydym yn wynebu pwysau o sawl cyfeiriad, felly bydd cael mynediad at ddata amser real lleol am y tywydd a chyflwr y pridd yn ein helpu i addasu ein harferion ffermio i weddu i hinsawdd newidiol heddiw yn ogystal â’n helpu i fod yn fwy effeithlon a chynhyrchiol yn y dyfodol.”
Mae arbrawf o 10 gorsaf dywydd eisoes wedi’i gynnal gydag ARC, chwech yn nalgylch afon Tywi fel rhan o’r prosiect SMS Cefnogi Adfer Natura 2000 a phedair wedi’u hariannu gan Dŵr Cymru o fewn dalgylchoedd afon Wysg ac afon Gwy.
Mae’r rhain wedi bod ar waith ers naw mis ac mae ffermwyr wedi nodi bod y ffaith eu bod yn gallu cael gafael ar y data o fudd enfawr, fel yr eglura Alun Thomas o Grŵp Dŵr y Bannau:
“Rydym mor falch o gael y dechnoleg hon gan ei bod wedi ein galluogi i wybod yn union beth yw’r pridd a’r tywydd ar y fferm a gwybod pa amodau y byddwn yn eu hwynebu am y diwrnodau nesaf.”
“Mae’r wybodaeth hon, sydd ar gael yn hawdd trwy’r ap, yn ein galluogi i ddefnyddio maetholion ar yr amser gorau posibl, gan ddiogelu’r amgylchedd yn ogystal ag arbed amser ac arian inni.”
Bydd y data o'r gorsafoedd yn bwydo i mewn i gronfa ddata ganolog i'w dadansoddi a'u harddangos trwy borth ac ap ffôn sy'n agored i bawb. Bydd hyn yn rhoi system goleuadau traffig hawdd ei deall i ffermwyr sy'n berthnasol i'r gwaith y maent yn bwriadu ei wneud.
Bydd hyn yn caniatáu i Michael Williams a ffermwyr tebyg iddo seilio ei benderfyniad ar gais am faetholion a phlaladdwyr ar y wybodaeth y mae'n ei derbyn.
Dywedodd John Owen o’r Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn gyda ffermwyr yn Sir Benfro i gefnogi eu harferion ffermio.”
Mae Pedair Afon LIFE, y Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Dŵr Cymru yn gobeithio cyflwyno'r prosiect hwn i ffermydd yn nalgylch afon Teifi erbyn diwedd y flwyddyn.
I ddarganfod mwy ac i lawrlwytho’r Ap ewch i Ap Tywydd Tywi - ARC (arc-csg.cymru)