Bydd ymweliad i gyfnewid gwybodaeth yn creu dyfodol gwell i ffermio yng Nghymru
Yr wythnos diwethaf ymwelodd ffermwyr o Gymru o grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio Cymru gyfan â ffermwyr a swyddogion milfeddygol yn Iwerddon i ddysgu mwy am ffermio cynaliadwy.
Trefnwyd yr ymweliad gan Lilwen Joynson, arweinydd Agrisgôp ar ran Cyswllt Ffermio gyda chefnogaeth prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar ddangos sut y gall ffermio adfywiol cynaliadwy ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol ac ar yr un pryd wella cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd.
Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn pwysleisio dulliau cynaliadwy o reoli tir trwy ei waith cynghori gyda ffermwyr a thirfeddianwyr, yn ogystal â darparu seilwaith newydd fel ffensys ar lannau afonydd i ddiogelu cyrsiau dŵr a da byw.
Mae agweddau megis iechyd pridd, gwella bioamrywiaeth a rheoli dŵr yn greiddiol i’r gwaith hwn a gallant sicrhau iechyd hirdymor yr amgylchedd a chynhyrchiant y tir.
Dywedodd Chris Thomas, Uwch Swyddog Rheoli Tir Prosiect Pedair Afon LIFE: “Rhan sylfaenol o’n gwaith cynghori yw cynnal a gwella strwythur, iechyd a ffrwythlondeb pridd ar ffermydd.
“Bydd rheolaeth dda o’r pridd yn gwella gallu’r pridd i amsugno maetholion a dŵr, gan sicrhau bod mwy yn aros yn y tir gan gadw ein hafonydd yn iachach.”
I weld hyn ar waith, ymwelodd deg ffermwr o Gymru â ffermwyr yn Iwerddon sydd wedi bod yn ffermio’n gynaliadwy ers sawl blwyddyn. I ddechrau roedd y newid yn heriol ond mae’r ffermwyr bellach yn gweld manteision ariannol mawr i’r busnes ffermio.
Mae Donal Sheehan yn ffermio 70 o wartheg godro yn Nyffryn Bride, Dwyrain Corc ac yn Rheolwr y Bride Project a’r Danú Project. Eglura: “Roedd yn wych gweld bod gan ffermwyr Cymru yr un meddylfryd â ni – yn sefydlu ffyrdd o ddod o hyd i atebion i’r problemau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu.”
Ychwanega: “Mae gwella’r pridd trwy ddefnyddio llai o gynhyrchion a newidiadau i arferion ffermio yn heriau anodd, ond roedd yn amlwg bod y ffermwyr o Gymru yn awyddus i fod ar flaen y gad.”
Mae manteision ymweliadau gan gymheiriaid yn glir fel yr eglura Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Cyswllt Ffermio: “Roedd hwn yn brofiad gwerthfawr i’r grŵp, gan ein bod yn gwybod bod cyfnewid gwybodaeth rhwng ffermwyr yn ffordd effeithiol o rannu gwybodaeth ymarferol a goresgyn heriau.”
Ychwanega Lilwen Joynson, arweinydd Agrisgôp: “Dwi wedi cyfarfod â’r ffermwyr hyn o Iwerddon yn y gorffennol ac wedi gweld pa mor frwdfrydig oedden nhw am fanteision ffermio cynaliadwy. Bydd dysgu oddi wrth ein gilydd a datblygu sgiliau i wella arferion ffermio yn cefnogi amgylchedd naturiol iach.”
Ariennir Prosiect Pedair Afon LIFE gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.