Natur am Byth Cynllun Hyfforddeion
Natur am Byth yw rhaglen adfer rhywogaethau flaenllaw Cymru sy’n uno naw elusen amgylcheddol â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y bartneriaeth fwyaf erioed o’i bath yng Nghymru.
Gydag ychydig dros hanner y planhigion a’r anifeiliaid yn weddill ac 17% o rywogaethau Cymru dan fygythiad o ddifodiant, mae Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi disbyddu fwyaf o ran byd natur yn y byd.I gydnabod y golled ddifrifol hon o ran bioamrywiaeth, ffurfiwyd partneriaeth Natur am Byth i weithredu mewn ymateb i’r argyfwng natur yng Nghymru.
Mae Natur am Byth yn targedu ymyriadau ar gyfer rhywogaethau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf o ddifodiant gyda chymorth penodol i’r bobl a all elwa fwyaf o ymgysylltu â threftadaeth naturiol.
Mae'r lleoliadau Natur am Byth i hyfforddeion wedi'u hanelu at roi cyfle i bobl o unrhyw gefndir sydd ag ychydig neu ddim profiad o gwbl gael profiad o weithio yn y sector amgylcheddol, gyda hyfforddiant sgiliau a chymorth i ddechrau gyrfa mewn cadwraeth natur. Wrth gynllunio pob un o'n tri lleoliad i hyfforddeion, ymgynghorwyd ag arbenigwyr o'r bartneriaeth, ac yn allanol gyda'r sector ehangach. Roedd hyn er mwyn deall sut y gallem wneud ein cynnig mor gynhwysol â phosibl. O ganlyniad, mae gan ein hyfforddeiaethau’r nodweddion canlynol:
✓ Telir mwy na’r cyflog byw gwirioneddol
✓ Lefel mynediad heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol
✓ Hyfforddiant mewn adnabod cynefinoedd a rhywogaethau
✓ Darperir costau teithio a chynhaliaeth
✓ Darperir offer digidol
✓ Mentora gan weithwyr cadwraeth proffesiynol i baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol cadwraeth
Gwahoddir darpar ymgeiswyr i drafod y rolau cyn gwneud cais i archwilio rhwystrau posibl i unrhyw un o'r eitemau a restrir o dan y cymwyseddau a'r gofynion ar gyfer y rôl, ac i ystyried sut y gellid eu lliniaru.
Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu llenwi'r tri rôl hyfforddeion canlynol:
Arfordir, Tir Comin a Chymunedau Bae Abertawe – Buglife
Abertawe a'r ardaloedd cyfagos
Mae'r prosiect, dan arweiniad Buglife, yn targedu 13 rhywogaeth brin, gan gynnwys y Chwilen y
Draethlin, Pryf teiliwr chwe smotyn, Corryn rafftio’r ffen, a Cordegeirian. Mae ymdrechion cadwraeth yn canolbwyntio ar adfer 52 hectar o gynefinoedd agored drwy ailgyflwyno arferion pori, rheoli glaswelltir a phrysgwydd, a chael gwared ar blanhigion ymledol mewn twyni tywod sy'n hanfodol ar gyfer rhywogaethau fel y fadfall tywod.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn yma.
yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn
Caerfyrddin
Bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gadwraeth Gold y môr yng Nghymru. Bydd yr hyfforddai yn dysgu am ofal a lluosogi'r samplau GA a gesglir, ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gynnal arbrofion croesbeillio. Bydd yr hyfforddai hefyd yn helpu'r YCC i fonitro planhigion a chacwn ar gyfer prosiect y gardwenynen feinlais.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn yma.
RSPB
Gogledd Cymru
Bydd yr hyfforddai yn cael ei gefnogi i fonitro ystod amrywiol o rywogaethau a dargedwyd a'u cynefinoedd ar gyfer y RSPB ar draws Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Yn dibynnu ar eich lleoliad, argaeledd trafnidiaeth a diddordebau personol, gall hyn gynnwys nodi tiriogaethau bridio gylfinir a dod o hyd i nythod, cyfri planhigion cor-rosyn rhuddfannog, cofnodi arsylwadau o frân goesgoch, asesu argaeledd bwyd ar gyfer y saerwenynen ac arolygu dyfrffyrdd ar gyfer arwyddion o lygod y dŵr. Byddwch hefyd yn chwarae rhan mewn rheoli cynefinoedd gyda gwirfoddolwyr, ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda phartneriaid prosiect, rheolwyr tir a chontractwyr ynghylch cadwraeth gwahanol fathau o gynefinoedd. Bydd cyfleoedd hefyd i helpu i godi proffil rhywogaethau a dargedwyd drwy ddigwyddiadau ymgysylltu a chyfathrebu, megis postiadau cyfryngau cymdeithasol, blogiau ac erthyglau cylchgronau.